Cyfraith tlodi

Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Cyfnod o Newid

Radicaliaeth a Phrotest, 1810 -1848

BBC
Twf pwysau economaidd yn ystod oes y Tuduriaid
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Roedd y gyfraith tlodi yn system o roi cymorth wedi ei ffurfioli a’i chyfundrefnu i’r tlodion yng Nghymru a Lloegr a ddechreuodd yn niwedd y 14g a dechrau cyfnod y Tuduriaid. Roedd hon yn system a fodolai nes cyflwynwyd y wladwriaeth les fodern ar ôl yr Ail Ryfel Byd.[1]

Pasiwyd nifer o ddeddfwriaethau gan y Tuduriaid er mwyn ceisio rheoli a rhoi cymorth i nifer y tlodion yng Nghymru a Lloegr. Pasiwyd deddfwriaeth ganddynt a oedd yn delio â gwahanol fathau o dlodion, yn amrywio o’r tlawd methedig i grwydriaid a chardotwyr.

Mae modd rhannu hanes Deddf y Tlodion yng Nghymru a Lloegr yn ddau gyfnod ar sail deddfwriaeth a basiwyd: sef yr Hen Ddeddf y Tlodion a basiwyd adeg teyrnasiad Elisabeth I a’r Ddeddf y Tlodion newydd a basiwyd yn 1834, pan fu newidiadau sylweddol i system gymorth y tlodion.[2] Newidiodd y ddeddf newydd hon y system o fod yn un a oedd darparu cymorth ar lefel lleol y plwyf mewn ffordd hap a damwain i gyfundrefn llawer mwy canolog a oedd yn hyrwyddo sefydlu'r wyrcws ar lefel ehangach gan undebau deddf y tlodion.[3]

Dirywiodd system y gyfraith tlodi ar ddechrau'r 20g oherwydd ffactorau fel cyflwyno'r diwygiadau lles Rhyddfrydol ac argaeledd ffynonellau cymorth eraill gan gymdeithasau cyfeillgar ac undebau llafur, yn ogystal â diwygiadau tameidiog a aeth y tu hwnt i system Cyfraith y Tlodion.[4] Ni ddiddymwyd system cyfraith tlodi yn ffurfiol tan y Ddeddf Cymorth Gwladol yn 1948.[5]

  1. "British social policy 1601-1948". web.archive.org. 2009-04-30. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-07-20. Cyrchwyd 2020-09-16.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  2. "The Poor Law". web.archive.org. 2009-05-04. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-04. Cyrchwyd 2020-09-16.
  3. "Poor Law | British legislation". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-16.
  4. "English Poor Laws". eh.net. Cyrchwyd 2020-09-16.
  5. "The New Poor Law". www.workhouses.org.uk. Cyrchwyd 2020-09-16.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search